Heddiw (20 Mawrth 2026) cyhoeddwyd £25 miliwn ar gyfer saith prosiect i roi hwb i Borthladd Rhydd Ynys Môn a sbarduno twf economaidd ar draws yr ynys a Gogledd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Ynys Môn a Stena Line UK wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) sy'n ffurfioli sut y bydd y porthladd rhydd yn cael ei lywodraethu a'i gyflawni.
Mae'r cytundeb hwn yn datgloi'r gyfran gyntaf o £25 miliwn o gyllid cyfalaf sbarduno, gan lywodraethau'r DU a Chymru, ar gyfer prosiectau a fydd yn gwella seilwaith, yn denu mewnfuddsoddiad ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth.
Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn barth dynodedig lle mae busnesau'n elwa o ryddhad treth a chymhellion eraill sydd wedi'u cynllunio i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi o ansawdd uchel.
Mae'r saith prosiect yn cynnwys gwelliannau i fynedfeydd ffyrdd, seilwaith ynni, gwaith adfer safleoedd a chyfleusterau newydd a gwell ar gampws Parc Gwyddoniaeth Menai. Gyda'i gilydd byddant yn paratoi safleoedd treth y porthladd rhydd ar gyfer buddsoddiad sector preifat.
Mae'r cyhoeddiad yn ddatblygiad ar ymrwymiadau mawr diweddar ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys cymeradwyo adweithydd niwclear newydd yn Wylfa a dynodi Ardal Twf AI Gogledd Cymru. Mae blaenoriaethau sector y porthladd Rhydd, sy'n cynnwys ynni niwclear a thechnoleg Ddigidol, yn ategu'r ddau ddatblygiad yn uniongyrchol.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cael hwb o £25 miliwn i greu swyddi a thwf | LLYW.CYMRU.