Newyddion

Pobl sy'n wynebu caledi yng Nghymru i gael cymorth bwyd a thlodi brys

Food parcels containing fruit and vegetable

Bydd pobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw yn elwa ar bron i £5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol eleni.

Bydd y buddsoddiad gwerth £4.8 miliwn yn ariannu cymorth bwyd brys i bobl mewn argyfwng, ochr yn ochr â chymorth i atal tlodi.

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r cyllid i gryfhau rhwydweithiau cymorth cymunedol fel clybiau cinio, archfarchnadoedd cymdeithasol a chaffis cymunedol. Gallant hefyd roi grantiau uniongyrchol i fanciau bwyd sy'n wynebu galw cynyddol.

Bydd y cyllid hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi, gan alluogi sefydliadau i gryfhau cyngor o ran costau byw i deuluoedd, gan helpu pobl i feithrin gwydnwch parhaol, nid dim ond ymdopi mewn argyfwng.

Bydd cyllid cyfalaf yn helpu sefydliadau i brynu oergelloedd, rhewgelloedd ac offer coginio, fel y gallant storio a dosbarthu mwy o fwyd, gan gynnwys cyflenwadau dros ben a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu.

Bydd arian ychwanegol hefyd yn mynd i awdurdodau lleol gwledig, gan gydnabod yr heriau ychwanegol o ddarparu cymorth mewn ardaloedd gwledig.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Pobl sy'n wynebu caledi yng Nghymru i gael cymorth bwyd a thlodi brys | LLYW.CYMRU.

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle: Cost Gwneud Busnes | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.