
Bydd ffermwyr Cymru yn elwa o bartneriaeth newydd gyda phobl Cymru sy'n cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur, o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd Heddiw (15 Gorffennaf 2025).
Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i sicrhau dyfodol cynhyrchu bwyd tra hefyd i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae'n cydnabod rôl hanfodol ffermio yng nghymunedau a diwylliant Cymru ac yn mynd i'r afael â heriau fel newid yn yr hinsawdd ac adfer natur.
Bydd y cynllun yn gweithio fel a ganlyn:
- bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau ar 1 Ionawr 2026 gyda'r ffurflen gais ar gyfer haen Gyffredinol y cynllun ar gael ar y Ffurflen Cais Sengl (SAF) drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein o fis Mawrth hyd at 15 Mai bob blwyddyn
- bydd Taliad Cynhwysol blynyddol yn mynd i ffermwyr sy'n ymuno â'r cynllun ac sy'n dilyn Gofynion y cynllun gan gynnwys set o Camau Gweithredu Cyffredinol. Bydd y Gweithredoedd hynny'n gyfarwydd i ffermwyr yng Nghymru, p'un a ydynt yn ffermio cig eidion, llaeth neu dir âr, ar yr ucheldir, ar yr yr iseldir, yn llai dwys neu'n ddwys
- rydym wedi gwneud y cynllun yn llai cymhleth gyda llai o ofynion gweinyddol. Rydym wedi lleihau nifer y Camau Gweithredu Cyffredinol ac wedi adeiladu ar brosesau a systemau profedig Taliadau Gwledig Cymru (RPW)
- mae'r cyfuniad o'r haenau Cyffredinol, Dewisol a Chydweithredol yn darparu fframwaith sefydlog hirdymor i gefnogi ffermio cynaliadwy yng Nghymru. Mae'n rhoi sefydlogrwydd drwy'r haen Gyffredinol, a chymorth ychwanegol i'r rhai sydd am wneud mwy drwy Gamau Gweithredu Dewisol a Chydweithredol
- bydd angen i bob ffermwr sy'n ymuno â'r cynllun gwblhau cynllun cyfle ar gyfer creu coetir a gwrychoedd yn y flwyddyn gyntaf o gael mynediad i'r cynllun. Bydd angen iddynt ddangos cynnydd tuag at eu cynllun erbyn diwedd blwyddyn y cynllun yn 2028
- darperir cymorth hael ar gyfer plannu coed a gwrychoedd yn yr Haen Ddewisol, gan gynnwys ar gyfer amaethgoedwigaeth, a bydd cyfradd talu uwch ar gyfer plannu coed yn ystod 3 blynedd gyntaf y cynllun
- nid ydym yn disgwyl i ffermwyr blannu coed ar eu tir mwyaf cynhyrchiol – byddant yn penderfynu ble i blannu, gyda chyngor a chanllawiau clir i sicrhau bod y goeden gywir yn y lle iawn
- bydd angen i ffermwyr yn y cynllun gael o leiaf 10% o'u tir yn cael ei reoli'n weithredol fel cynefin, er budd bioamrywiaeth a chefnogi adferiad natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Mae amrywiaeth o opsiynau cynefinoedd dros dro ar gael i ddewis ohonynt os oes angen i ffermwyr wneud mwy i fodloni'r gofyniad o 10%.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon Perthynas newydd rhwng pobl Cymru a ffermwyr | LLYW.CYMRU ac Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2026: disgrifiad o’r cynllun | LLYW.CYMRU