
Yr haf hwn, mae Cymru’n croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd wrth i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl gynnal y Bencampwriaeth Agored yr AIG i Fenywod, bydd hyn yn gyfle gwych i lawer o fusnesau gymryd rhan a manteisio o’r digwyddiad.
Dyma’r tro cyntaf i’r Bencampwriaeth gael ei chynnal yng Nghymru ac, fel y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf i’w gynnal yn y wlad, bydd yn croesawu’r golffwyr gorau yn y byd a’r ymwelwyr i’n harfordir godidog yn ystod Blwyddyn Croeso, Croeso Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 30 Gorffennaf a 3 Awst 2025, gyda 144 o chwaraewyr yn cystadlu am un o’r gwobrau mwyaf ym myd golff menywod.
Gyda chwaraewyr ac ymwelwyr yn teithio o bob cwr o’r byd ac yn debygol o fwynhau gweithgareddau eraill, mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle gwych i gymryd rhan a manteisio ar y ffaith bod Cymru’n cynnal y digwyddiad.
Sicrhewch eich tocynnau nawr i ddod i brofi’r hwyl o wylio Pencampwriaeth Agored yr AIG i Fenywod eich hun a darllenwch y canllaw hwn i gael mwy o syniadau ar sut y gall eich busnes gymryd rhan, croesawu gwesteion gyda chroeso cynnes a’u helpu i gynllunio.