Mae CThEF wedi lansio cynllun peilot 'Sicrwydd Ymlaen Llaw ar gyfer Ymchwil a Datblygu wedi’i Dargedu' ar 18 Mai 2026 sy'n rhedeg am 12 mis.
Mae wedi'i gynllunio i roi eglurder cynharach i Fusnesau Bach a Chanolig cymwys ar feysydd cymhleth penodol o hawliad rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu, gan gefnogi cwmnïau i wneud penderfyniadau gwybodus cyn gwneud hawliad.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim ac mae'n wirfoddol. Nid yw'n disodli'r gofyniad statudol i gyflwyno hawliad yn y Ffurflen Dreth Gorfforaeth ac i gwblhau'r holl gamau arferol sy'n ofynnol, megis yr Hysbysiad Hawliad (lle bo angen) a ffurflen Gwybodaeth Ychwanegol.
Gall ceisiadau gael eu gwneud gan y cwmni ei hun neu gan asiant gyda chaniatâd y cwmni.
Bydd y cynllun Sicrwydd Ymlaen Llaw hawliad llawn yn parhau i fod ar agor i gwmnïau cymwys. Fodd bynnag, ni all cwmni wneud cais am y peilot a'r gwasanaeth Sicrwydd Ymlaen Llaw hawliad llawn.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Apply for targeted advance assurance on up to 2 areas of your Research and Development (R&D) tax relief claim - GOV.UK.