Newyddion

Peidiwch ag anghofio adnewyddu eich Credydau Treth

Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy'n gweithio gyda chymorth ariannol targedig, felly mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gweithredu nawr i adnewyddu cyn y dyddiad cau sy'n agosáu'n gyflym, sef 31 Gorffennaf 2023, er mwyn sicrhau nad yw eu taliadau'n dod i ben.

Mae CThEF yn annog mwy o gwsmeriaid i ddefnyddio ap CThEF gan ei fod yn ffordd gyflym a hawdd o gyflawni'r gwaith hanfodol hwn. 

Mae'n rhad ac am ddim ac yn syml i'w ddefnyddio ac mae'n caniatáu mynediad uniongyrchol i gredydau treth trwy bwyso botwm. Mae llawer o fanteision i'r ap cwbl ddiogel, y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ffôn clyfar neu lechen, ar unrhyw adeg, gan ddileu'r angen i ffonio CThEF a helpu cwsmeriaid i arbed amser ac arian.

Gall cwsmeriaid sy'n defnyddio ap CThEF:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • gwneud newidiadau i'w cais
  • gwirio eu hamserlen taliadau credydau treth, a
  • darganfod faint maen nhw wedi'i ennill am y flwyddyn

Mae CThEM wedi rhyddhau fideo i esbonio sut gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEF i weld, rheoli a diweddaru eu manylion.

Gall cwsmeriaid hefyd adnewyddu ei credydau treth a rheoli eu hawliadau ar-lein ar GOV.UK. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu hadnewyddiad, cael eu sicrhau ei fod yn cael ei brosesu a gwybod pryd y byddant yn clywed yn ôl gan CThEF.

Mwy o wybodaeth

Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap CThEF am ddim o siop apiau ffôn clyfar.

Darganfyddwch fwy am Credydau Cynhwysol yn disodli credydau treth.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.