Newyddion

Pecyn Cymorth Busnes ar gyfer Hyrwyddo Arweinyddiaeth Menywod yng Nghymru

Muslim woman in an office wearing a hijab

Mae CBI Cymru a Phrifysgol De Cymru wedi lansio adnodd ar-lein rhad ac am ddim gyda'r nod o gefnogi mwy o fenywod i yrfaoedd llwyddiannus.

Mae'r pecyn cymorth yn tynnu sylw at chwe maes blaenoriaeth lle gall gweithredu ysgogi newid a chefnogi menywod yn y gweithle:

  • Meithrin diwylliannau cynhwysol yn y gweithle
  • Ymgorffori gweithio hyblyg ar bob lefel
  • Ehangu mentora a rhwydweithiau
  • Mynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu
  • Cefnogi gofalwyr a theuluoedd sy'n gweithio
  • Meithrin hyder a dyhead

I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r pecyn cymorth rhad ac am ddim, dewiswch y ddolen ganlynol: Unlocking women’s leadership in Wales | CBI.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn cydnabod pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid benywaidd i economi Cymru. Rhagor o wybodaeth: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.