
Cymru i dderbyn cyfran o £250 miliwn o gyllid i greu partneriaethau hirdymor.
Mae Bargeinion Twf Amddiffyn yn cael eu creu fel rhan o fenter feiddgar i gefnogi potensial twf y diwydiant amddiffyn, wedi ei ategu gan y cynnydd hanesyddol mewn gwariant ar amddiffyn i 2.6% o gynnyrch domestig gros erbyn 2027 a’r uchelgais i gyrraedd 3% yn y Senedd nesaf.
Gan ddefnyddio cyfran o £250 miliwn o arian ar gyfer Bargeinion Twf Amddiffyn y Deyrnas Unedig, bydd Cymru yn creu partneriaeth hirdymor rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru, gan uno busnesau a sefydliadau ymchwil yn y genedl i harneisio arbenigedd ac adnoddau lleol i gynorthwyo Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig.
Bydd y Bargeinion Twf Amddiffyn yn datgloi twf, arloesi a chreu swyddi o fewn crynodiadau allweddol y diwydiant amddiffyn a deu-ddefnydd ledled y wlad, gan gryfhau gwydnwch sylfaen ddiwydiannol amddiffyn y Deyrnas Unedig.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Partneriaeth arbennig yng Nghymru i greu swyddi a harneisio arloesi milwrol - GOV.UK