Newyddion

Parth buddsoddi gogledd ddwyrain Cymru gwerth £1 biliwn yn gwneud cynnydd sylewddol

Cabinet Secretary visiting site

Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar Barth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint, wrth i'r busnes FI Real Estate Management (FIREM) fuddsoddi mewn twf.

Prosiect cydweithredol yw'r Parth Buddsoddi, y disgwylir iddo ddenu buddsoddiad o £1 biliwn gan y sector preifat a chreu 6000 o swyddi newydd.

Mae'n cael ei gefnogi gan £160 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar weithgynhyrchu uwch, gyda'r Parth Buddsoddi yn targedu capasiti newydd o 5.5 miliwn troedfedd sgwâr ar gyfer y sector.

Bydd pwyslais arbennig ar sgiliau arloesi a heriau trafnidiaeth, darparu cyfleoedd a buddsoddiad newydd i gymunedau a thyfu economïau lleol a rhanbarthol.

Yn ddiweddar, datblygwyd cynlluniau ar gyfer y Parth Buddsoddi ymhellach gyda chadarnhad yng nghyhoeddiad diweddar y Canghellor Rachel Reeves o'i ffocws ar ddiwydiant, a'i brif safleoedd.  

Un o'r safleoedd hyn yw Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, sy'n gartref i ystod eang o fusnesau a chyflogwyr mawr, fel JCB.

Mae tri o ddatblygiadau FIREM ar y stad - Wrecsam 1M, Wrecsam 152 a Chanolfan Bridgeway – o fewn y parth dynodedig.

Mae'r cwmni'n ehangu ei bresenoldeb ar yr ystad yn sylweddol fel rhan o'i brosiect Wrecsam 1M, sy'n cynnwys miliwn troedfedd sgwâr o ofod logisteg, a fydd yn creu 1,000 o swyddi ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer twf yn y rhanbarth. Mae FIREM wedi buddsoddi mwy na £136 miliwn yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.

Am ragor o wybodaeth dewisiwch y ddolen ganlynol: Parth buddsoddi gogledd ddwyrain Cymru gwerth £1 biliwn yn gwneud cynnydd sylweddol | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.