Newyddion

Parhau i gydnabod gofynion yr UE, gan gynnwys marc CE, ar gyfer gosod cynhyrchion ar Farchnad Prydain Fawr

manufacturing - employee working in a factory

Ar 1 Hydref 2024, daeth deddfwriaeth y DU i rym i barhau i gydnabod gofynion yr UE, gan gynnwys rhoi marc CE ar gyfer gosod ystod o gynhyrchion ar farchnad Prydain. Enw'r ddeddfwriaeth hon yw Rheoliadau Diogelwch a Mesureg Cynnyrch (Diwygio) 2024 ac mae'n berthnasol i 21 o reoliadau cynnyrch.

Er mwyn cefnogi diwydiant ymhellach, mae Llywodraeth y DU wedi darparu tudalennau canllaw newydd i gynorthwyo busnesau i roi eu cynhyrchion ar y farchnad.

Gallwch ddod o hyd i ddolenni i'r tudalennau hyn isod: 

Gall busnesau ddarparu unrhyw adborth, sylwadau neu gwestiynau ar ddull y DU o farcio cynnyrch yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU drwy: goods.regulation@businessandtrade.gov.uk.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.