Mae ceidwaid adar ledled Cymru yn cael eu hannog i baratoi nawr, wrth i gyfnod risg uwch y gaeaf ar gyfer ffliw adar agosáu.
Dylai pob ceidwad adar yng Nghymru, p'un a ydynt yn cadw ychydig o adar anwes neu ddiadell fasnachol fawr, weithredu i amddiffyn eu hadar nawr, nid aros nes bod y risg yn cynyddu.
Gofynnir i geidwaid adolygu eu bioddiogelwch heddiw, cwblhau rhestr wirio hunanasesu, a chynnwys arfer da yn eu trefn ddyddiol.
Gall arwyddion clinigol ffliw adar gynnwys pen chwyddedig, lliw glas y tu allan a thu mewn i'r gwddf, colli archwaeth, methu anadlu, dolur rhydd, dodwy llai o wyau, a mwy o farwolaethau.
Rhaid i geidwaid adar sy'n amau ffliw adar yn eu haid gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Paratowch nawr, peidiwch ag aros: Anogir ceidwaid adar i weithredu cyn perygl ffliw adar y gaeaf | LLYW.CYMRU.