Caerdydd yw'r cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Ardoll Ymwelwyr, sef tâl ar arosiadau dros nos. Os ydych chi'n cymryd archebion am arosiadau dros nos yng Nghaerdydd, mae angen i chi weithredu cyn 28 Medi 2026.
O 28 Medi 2026 ymlaen, rhaid i chi ddechrau rhoi cyfrif am Ardoll Ymwelwyr ar:
- archebion newydd am arosiadau o 1 Ebrill 2027
- nosweithiau ychwanegol neu westeion sydd wedi'u hychwanegu at archebion sy’n bodoli eisoes am arosiadau o 1 Ebrill 2027
Mae hyn yn berthnasol i bob math o lety dros nos, gan gynnwys gwestai, gwely a brecwast, llety hunanarlwyo, hosteli, safleoedd carafannau, safleoedd gwersylla a glampio. Os ydych chi'n rhentu eich cartref neu ystafell sbâr i westeion, mae'n berthnasol i chi hefyd.
Byddwch yn talu Ardoll Ymwelwyr i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), sy'n ei chasglu ar ran Cyngor Caerdydd. Mae ACC wedi llunio canllaw 10 cam syml i'ch helpu i baratoi. Mae'n cynnwys popeth sydd angen i chi ei wneud cyn 28 Medi 2026, gan gynnwys sut i gyfrifo'r ardoll a pha gofnodion i'w cadw. Darllenwch y canllaw 10 cam yn LLYW.CYMRU.
Mae Cyngor Caerdydd ac ACC yma i'ch helpu i baratoi. Os oes gennych chi gwestiynau am baratoi ar gyfer Ardoll Ymwelwyr ar ôl darllen y canllaw, cysylltwch ag ACC. Ar gyfer cwestiynau am benderfyniad Caerdydd i gyflwyno'r ardoll a sut y bydd refeniw yn cael ei ddefnyddio, cysylltwch â Chyngor Caerdydd.