Newyddion

Paratowch ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2023!

Hands holding craft paper gift box

Bydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni yn cael ei gynnal ddydd Iau, 5 Hydref 2023. Mae ymgyrch #TickTheBox yn codi ymwybyddiaeth am beth yw Rhodd Cymorth a pha mor hanfodol yw hi i elusennau.

Gwahoddir pob elusen i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ar eich gwefan ac yn eich cylchlythyrau, yr effaith y mae Rhodd Cymorth yn ei chael ar y bobl a'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu.

A beth bynnag yw diben eich elusen, mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn gyfle arall i ddangos y pethau anhygoel rydych chi'n eu gwneud i'ch cefnogwyr, diolch i'r rheiny sy'n #TickTheBox. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Charity Finance Group | Gift Aid Awareness (cfg.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.