Gan Charlotte Beedles, Cyfreithiwr, Cyfraith Cyflogaeth, Partner Aur ar y Rhaglen Cyflymu Twf
Mae twf cyflym yn creu cyfleoedd cyffrous, ond yn aml mae'n amlygu gwasgfeuon yn y ffordd y mae busnes yn rheoli ei weithlu. Gall fod angen adolygu beth oedd yn gweithio pan oedd gan fusnes dîm bach, agos pan fydd recriwtio'n cyflymu, rheolwyr o dan bwysau a phenderfyniadau'n cael eu gwneud ar gyflymder. A nifer o newidiadau i gyfraith cyflogaeth mewn grym erbyn hyn ac eraill ar y gweill, dyma amser synhwyrol i gyflogwyr adolygu eu trefniadau. Drwy ddilyn y wybodaeth ddiweddaraf a chynllunio ymlaen llaw, gall busnesau leihau tarfu, cefnogi eu pobl yn effeithiol a chryfhau eu harferion yn y gweithle ar gyfer y dyfodol.
Dyma bum newid y dylai busnesau sy’n tyfu roi sylw iddyn nhw.
1. Bellach mae tâl salwch ac absenoldeb teulu’n dechrau'n gynharach
Ers 6 Ebrill 2026, mae Tâl Salwch Statudol (SSP) yn daladwy o ddiwrnod cymwys cyntaf y salwch. Mae'r cyfnod aros o dridiau a'r Terfyn Enillion Isaf wedi diflannu, felly bellach mae enillwyr isaf yn derbyn yr isaf o 80% o'r enillion wythnosol cyfartalog neu'r gyfradd SSP gyfredol, sef £123.25 ar hyn o bryd. Bellach mae absenoldeb tadolaeth statudol ac absenoldeb rhiant di-dâl hefyd ar gael o'r diwrnod cyntaf, ac mae Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth wedi'i gyflwyno.
Ni fydd hyn yn effeithio ar y gyflogres yn unig. Dylid gwirio llythyrau cynnig, contractau, llawlyfrau a dogfennau sefydlu o ran y sefyllfa bresennol, ac mae angen i reolwyr ddeall y gall cyflogeion newydd fod yn gymwys ar gyfer rhai hawliau llawer yn gynt nag o'r blaen.
2. Mae angen ystyried yn gynnar ofynion ymgynghori ar ddiswyddo
Pan ymgynghorir ar y cyd ar ddiswyddiadau, mae’r gost o wneud camsyniad wedi cynyddu’n sylweddol. Ar gyfer diswyddiadau perthnasol o 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae'r dyfarniad amddiffynnol uchaf am fethu â chydymffurfio â rhwymedigaethau ymgynghori ar y cyd wedi dyblu o 90 i 180 diwrnod o dâl.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol i fusnesau sy'n ehangu ac sy’n ailstrwythuro ar yr un pryd, lle mae newidiadau tîm, cau safleoedd neu ganoli swyddogaethau yn gyffredin. Ar hyn o bryd caiff ymgynghori ei sbarduno pan gynigir 20 neu fwy o ddiswyddiadau mewn un sefydliad o fewn cyfnod o 90 diwrnod, ac y disgwylir trothwy ar draws y sefydliad. Gall cymryd amser i asesu newidiadau posibl yn y gweithlu ar draws y sefydliad cyfan, yn hytrach na thimau unigol ar eu pennau eu hunain, helpu cyflogwyr i nodi gofynion ymgynghori'n gynnar a rheoli newid yn fwy effeithiol.
3. Er mwyn atal aflonyddwch mae angen dull rhagweithiol o fynd ati
Ers mis Hydref 2024, mae cyflogwyr wedi bod dan ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle, a’r iawndal wedi cynyddu hyd at 25% pan dorrir y ddyletswydd honno. O 1 Hydref 2026 ymlaen: bydd angen i gyflogwyr ddangos eu bod nhw wedi cymryd 'pob cam rhesymol', a bydd yr amddiffyniad yn ymestyn i aflonyddu gan drydydd partïon, gan gynnwys cwsmeriaid, cleientiaid a chontractwyr.
Mae’n annhebygol y bydd polisi llawlyfr yn ddigonol ar ei ben ei hun. Dylai cyflogwyr ystyried hyfforddiant, llwybrau adrodd, asesiadau risg a sut y caiff pryderon eu trin yn ymarferol, yn enwedig mewn amgylcheddau sy'n wynebu cwsmeriaid lle gall y risg ddod o'r tu allan i'r gweithlu yn ogystal ag oddi mewn iddo.
4. Bellach bydd mwy o amser i gyflogeion wneud hawliadau tribiwnlys
O 1 Hydref 2026 ymlaen, bydd y cyfnod cyfyngu ar gyfer y rhan fwyaf o hawliadau tribiwnlys cyflogaeth yn cynyddu o dri mis i chwe mis (namyn diwrnod), yn amodol ar effaith Cymodi Cynnar Acas. Bydd anghydfodau'n aros yn fyw am hirach ac, erbyn i hawliad gyrraedd, efallai y bydd rheolwr wedi gadael, gall atgofion fod yn wannach a gall arferion cadw arferol fod wedi dileu negeseuon neu nodiadau allweddol.
Bu cadw cofnodion da’n rhan bwysig o reoli pobl yn effeithiol erioed. Mae’n hanfodol cadw cofnodion clir am berfformiad, ymddygiad, presenoldeb neu allu ar y pryd, ynghyd â chwynion, canlyniadau disgyblu a phenderfyniadau diswyddo. Os oes modd amddiffyn penderfyniad, dylai’r gwaith papur ddangos pam.
5. Bydd amddiffyniad rhag diswyddo annheg yn cyrraedd yn gynt o lawer
O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd y cyfnod cymhwyso ar gyfer diswyddo annheg arferol yn gostwng o ddwy flynedd i chwe mis, a bydd y terfynau dyfarnu iawndal presennol, gan gynnwys y cap cyflog 52 wythnos, yn cael ei ddileu ar gyfer diswyddiadau sy'n digwydd o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae hyn yn bwysig nawr oherwydd ei fod yn effeithio ar gyflogeion presennol yn ogystal â’r rhai a gaiff eu recriwtio yn y dyfodol: bydd unrhyw un sydd â chwe mis o wasanaeth erbyn 1 Ionawr 2027 yn cael amddiffyniad o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Rhaid i’r cyfnod prawf ddod yn offeryn rheoli go iawn, ac nid yn unig gymal mewn contract. Bydd disgwyliadau clir, adolygiad rheolaidd, sgyrsiau amserol a chadw cofnodion cyson yn cefnogi perthnasoedd cyflogaeth cadarnhaol ac yn helpu rheolwyr i fynd i'r afael â phryderon yn gynnar. Gall rhai hawliadau, gan gynnwys gwahaniaethu, chwythu'r chwiban a diswyddo annheg yn awtomatig, godi o hyd heb chwe mis o wasanaeth.
Fel arfer mae cyflogwyr mewn sefyllfa gryfach o lawer pan gaiff contractau, polisïau ac arferion rheoli eu hadolygu'n gynnar, yn hytrach nag unwaith y bydd problem wedi codi.