Daw'r Mecanwaith Addasu Pris Carbon ar Draws Ffiniau (CBAM) ) y Deyrnas Unedig (DU) i rym ar 1 Ionawr 2027.
Bydd yn trethu allyriadau ymgorfforedig mewn nwyddau penodol sy'n ddwys o ran carbon a fewnforir i'r DU.
Os ydych chi'n mewnforio nwyddau CBAM i'r DU o'r sectorau alwminiwm, sment, gwrtaith, hydrogen, haearn a dur:
- bydd yn rhaid i chi gadw cofnodion
- efallai y bydd angen i chi gofrestru
Gall CBAM y DU hefyd fod yn berthnasol yn anuniongyrchol i fusnesau sy'n defnyddio'r nwyddau hyn yn eu cadwyn gyflenwi. Hynny yw, os ydych yn prynu dur, alwminiwm, sment, gwrtaith, hydrogen neu nwyddau eraill sy’n dod o dan CBAM, neu os yw eich cynhyrchion wedi'u gwneud ohonynt, mi fyddwch o fewn cwmpas y cynllun.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni hon (tudalen Saesneg):
- Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM): Policy summary - GOV.UK
- Illustrative CBAM rates and worked example for Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM) - GOV.UK
- The Carbon Border Adjustment Mechanism (Default Values) Force of Law Notice (Draft) - GOV.UK
- Rates for the Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM) - GOV.UK
- Check the default values for the Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM) - GOV.UK
- Monitoring emissions as an overseas installation producing Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM) goods, exported to the UK - GOV.UK
- Responsibilities if you accredit verifiers for Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM) goods - GOV.UK
- Verifying emissions data for Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM) goods - GOV.UK
- Getting the emissions intensity when importing Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM) goods - GOV.UK
- Carbon Border Adjustment Mechanism (CBAM): technical guidance for monitoring, verifying and reporting emissions - GOV.UK
Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ddichonoldeb ac effeithiau ehangu CBAM i gynnwys cynhyrchion purfa.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) a Thrysorlys EF (HMT) yn cynnal yr ymgynghoriad ar y cyd: CBAM: a consultation on sectoral scope expansion to include refinery products
Gwahoddir barn gan bartïon â diddordeb, gan gynnwys y mewnforwyr a'u hasiantau, busnesau eraill, unigolion, cynghorwyr treth, cyrff masnach a phroffesiynol a phartïon eraill sydd â diddordeb, gan gynnwys y rhai dramor. Mae'r ymgynghoriad yn cau am 11:59pm ar 20 Ionawr 2027.