Newyddion

Paratoi ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau'r Doll Fepio

Vaping Products

Ffeindiwch pam mae angen i chi baratoi ar gyfer 1 Ebrill 2026 os ydych chi'n cynhyrchu, yn mewnforio neu’n storio cynhyrchion fepio yn y Deyrnas Unedig (DU).

Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau'r Doll Fepio o 1 Hydref 2026. Bydd ceisiadau am gymeradwyaeth ar agor o 1 Ebrill 2026.

Mae angen i chi ddarllen y canllawiau wrth i chi baratoi ar gyfer y cynllun os ydych chi’n:

  • wneuthurwr cynhyrchion fepio (gan gynnwys cynhyrchion a wneir gartref) yn y DU
  • gwneuthurwr cynhyrchion fepio sy’n byw tramor ac yn bwriadu eu hanfon i'r DU
  • ceidwad warws tollau neu dreth sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan HMRC (neu os ydych am wneud cais neu eisoes wedi gwneud cais am gymeradwyaeth gan HMRC)
  • perchennog cynhyrchion fepio a gedwir mewn warws nad yw'n warws tollau neu dreth sydd wedi’i gymeradwyo
  • mewnforio cynhyrchion fepio i'r DU
  • prynu cynhyrchion fepio o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd (UE), os ydych chi'n fusnes yng Ngogledd Iwerddon
  • gwerthu cynhyrchion fepio trwy gyfanwerthu (gwerthu'n uniongyrchol i fusnes) neu’n manwerthu (gwerthu'n uniongyrchol i'r cwsmer) yn y DU

Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.