Gan Charlotte Beedles, Partner Aur y Rhaglen Cyflymu Twf
Daeth Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn gyfraith ar 18 Rhagfyr, gan gyflwyno newidiadau sylweddol yng nghyfraith cyflogaeth y DU. Mae'r diwygiadau hyn yn cryfhau amddiffyniadau yn y gweithle ac yn hyrwyddo arferion tecach ar draws busnesau o bob maint. I gwmnïau sy'n tyfu, mae deall a pharatoi ar gyfer y newidiadau hyn yn hanfodol.
Newidiadau allweddol y mae angen i chi ei wybod
Mae’r diwygiadau’n cyflwyno nifer o amddiffyniadau pwysig:
- Tâl salwch statudol yn hawl i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf.
- Cyfyngiadau amser tribiwnlys wedi’u hestyn o dri i chwe mis.
- Y ddyletswydd i atal aflonyddu rhywiol wedi’i gryfhau o “camau rhesymol” i “pob cam rhesymol”.
- Ailgyflwyno'r ddyletswydd i atal aflonyddu ar weithwyr gan drydydd partïon.
- Gweithwyr yn ennill hawliau diswyddo annheg ar ôl chwe mis o wasanaeth.
Cyflwynir newidiadau fesul cam o fis Ebrill 2026 ymlaen, a disgwylir y camau gweithredu terfynol yn 2027.
Beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes chi?
Er bod angen is-ddeddfwriaeth cyn i lawer o ddarpariaethau ddod i rym, nawr yw'r amser i baratoi. Bydd dilyn y wybodaeth ddiweddaraf a bod yn barod i ymateb yn eich rhoi chi ar y blaen.
Mae cymryd camau nawr yn lleihau risg a straen maes o law. Er y gallai fod yn demtasiwn aros am y camau gweithredu terfynol, mae paratoi’n gynnar yn amddiffyn eich busnes ac yn symleiddio'r pontio. Bydd busnesau sy'n adolygu ac sy’n diweddaru polisïau yn awr yn amddiffyn eu hunain rhag hawliadau yn y dyfodol ac yn sicrhau gweithrediad llyfnach.
Sylwch yn ofalus ar hawliau diswyddo annheg, a fydd yn berthnasol ar ôl chwe mis o wasanaeth o 1 Ionawr 2027 ymlaen. Rhaid sefydlu gweithdrefnau wedi'u diweddaru erbyn Gorffennaf 2026, gan y bydd staff a gyflogir o'r dyddiad hwn ymlaen yn cael hawliau diswyddo annheg ar 1 Ionawr 2027 wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu cyfnodau prawf.
Mae hyn yn golygu na fydd y prosesau "diswyddo cyfnod prawf" traddodiadol a ddefnyddir ar hyn o bryd gan lawer o gyflogwyr yn briodol mwyach. Nid yw gweithredu'n gynt y prosesau a ddiweddarwyd yn creu unrhyw risg gan y bydd unrhyw weithwyr a gânt eu recriwtio o hyn allan, neu'r rhai sy'n parhau yn eu cyfnod dwy flynedd cychwynnol ar 1 Ionawr 2027, hefyd yn cael eu cynnwys yn yr amddiffyniadau newydd.
Sut i baratoi eich busnes chi
Sut y gallwch chi baratoi:
- Adolygwch a diweddarwch gontractau a pholisïau i adlewyrchu’r gofynion newydd
- Hyfforddwch reolwyr a staff ar y newidiadau a beth maen nhw’n ei olygu yn ymarferol
- Hyrwyddwch gyfathrebu agored fel y rhoddir gwybod am broblemau’n gynnar ac y lleiheir risgiau o waethygu
- Cadwch gofnodion clir am ddiweddariadau polisi, ymgynghoriadau, a phenderfyniadau allweddol
- Ceisiwch gyngor arbenigol pan fydd angen eglurder neu gymorth arnoch
Edrych ymlaen
Mae paratoi ar gyfer y newidiadau hyn yn eich rhoi chi mewn rheolaeth. Y tu hwnt i gydymffurfio, mae'r diwygiadau hyn yn cynnig cyfle go iawn i gryfhau diwylliant eich gweithle, rhoi hwb i ymgysylltu a chreu amgylchedd mwy diogel, mwy cefnogol i'ch tîm.