Newyddion

Paneli solar dros feysydd parcio a gwefru cerbydau trydan

Engineer fixing solar panels to roof

Mae llywodraeth y DU wedi lansio galwad am dystiolaeth i ddeall sut i harneisio potensial ynni solar gan ddefnyddio meysydd parcio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gallai archfarchnadoedd, parciau manwerthu a swyddfeydd hefyd arbed arian ar eu biliau ynni trwy droi eu meysydd parcio'n 'byrth ceir solar', gan arbed hyd at £28,000 y flwyddyn a phweru busnesau a chartrefi ledled y DU. Mae'r alwad am dystiolaeth yn cau am 11:59pm ar 18 Mehefin 2025.

Bydd modurwyr petrol a diesel hefyd yn cael eu cefnogi gan gynllun blaenllaw Fuel Finder y llywodraeth - sydd wedi penodi cyflenwr heddiw i ddechrau ar gam cyntaf cyflwyno’r cynllun. Mae’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i bob gorsaf betrol rannu prisiau o fewn 30 munud i newid, gan ostwng prisiau wrth y pwmp ac arbed rhwng 1 a 6c y litr i yrwyr ar gyfartaledd.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Better deal for motorists and businesses with solar car parks - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.