Blogiau

Pam mae angen rhestr ‘peidio â gwneud’ ar eich cynllun twf yn 2026

Woman with arms crossed and factory in the background

Gan Andy Bird, Rheolwr Perthnasoedd RCT

Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr busnes yn dechrau’r flwyddyn gyda chynlluniau uchelgeisiol: marchnadoedd newydd i fynd i mewn iddyn nhw, cynhyrchion i’w lansio, partneriaethau i’w ffurfio. Ond y gwir cas yw bod eich cynllun twf yn rhy hir, fwy na thebyg.

Yn aml, nid dim ond gwybod at beth y maen nhw’n anelu y mae busnesau sy’n tyfu’n llwyddiannus. Maen nhw’n gwbl glir am beth i beidio â gwneud.

Cost gudd cytuno

Mae i bob cyfle rydych chi’n mynd ar ei ôl bris anweledig. Nid dim ond yr arian a wariwch chi, ond y ffocws rydych chi’n ei wasgaru, yr egni tîm rydych chi’n ei wanhau a’r eglurder strategol rydych chi’n ei aberthu.

Pan fyddwch chi’n rhedeg busnes twf uchel, nid cyfalaf yw eich adnodd mwyaf prin. Amser a sylw yw hwnnw. Mae pob cyfarfod a gymerwch, pob menter yr ydych chi’n rhan ohoni, pob “cymwynas gyflym” yr ydych chi’n cytuno i’w gwneud yn eich tynnu chi ymhellach o’r gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn.

Rydw i wedi gwylio sylfaenwyr busnes gwych yn oedi eu twf nhw trwy drin pob cyfle fel pe tai’n fater brys. Maen nhw’n bresennol ym mhob sgwrs ond yn absennol o’r penderfyniadau strategol. Maen nhw’n brysur, ond heb fod yn effeithiol. Ac mae eu timau nhw’n adlewyrchu’r ymddygiad hwn, yn aml yn eu lledu eu hunain yn rhy denau i gyflawni unrhyw beth eithriadol.

Tri chwestiwn i adeiladu eich rhestr peidio â gwneud

Dechreuwch drwy archwilio eich ymrwymiadau cyfredol. Adolygwch eich dyddiadur, rhestr brosiectau a chyfarfodydd sefydlog. Wedyn holwch eich hun:

1. Beth ydyn ni’n ei wneud o arfer, nid strategaeth?

Mae llawer o fusnesau’n parhau â gweithgareddau a oedd yn gwneud synnwyr unwaith ond nad ydyn nhw o fudd iddyn nhw mwyach. Adroddiadau wythnosol nad oes neb yn eu darllen. Partneriaethau sy’n creu ychydig o werth. Sianeli marchnata a beidiodd â gweithio fisoedd neu weithiau flynyddoedd yn ôl.

Mae’r ymrwymiadau hyn yn sugno adnoddau wrth ddarparu llai a llai o fuddion. Byddwch yn onest am beth yw momentwm o’i gymharu â beth sy’n rhoi canlyniadau.

2. Beth y gallai rhywun arall ei wneud yn well?

Yn sylfaenydd, mae’n debyg i chi ddechrau trwy wneud popeth eich hun. Ond mae twf yn golygu gollwng gafael. Y blog hwnnw rydych chi’n mynnu ei ysgrifennu? Y berthynas honno â chleient nad ydych chi am ei throsglwyddo? Y manylyn gweithredol hwnnw na allwch chi ei ryddhau?

Y defnydd gorau ar eich ffocws chi yw gweithio ar y busnes, nid ynddo. Os gall rhywun yn eich busnes chi wneud hynny 80% mor dda â chi, dirprwywch y gwaith. Rhyddhewch eich hun ar gyfer y gwaith strategol na all neb ond chi ei wneud: pennu gweledigaeth, adeiladu diwylliant, sicrhau partneriaethau pwysig a chyflogi unigolion hollbwysig. Does neb yn dweud bod hyn yn hawdd. Ond mae angen i chi ddod i’r arfer o wrthod yn amlach.

3. Beth sy’n ein cadw ni’n gysurus yn hytrach na chystadleuol?

Weithiau rydyn ni’n dal i wneud pethau yn unig am eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel. Prosiectau risg isel sy’n gwarantu buddion bach. Marchnadoedd sefydledig lle rydyn ni’n deall rheolau’r gêm. Perthnasoedd cysurus â chleientiaid nad ydyn nhw’n ein hestyn ni.

I dyfu mae angen risg fwriadol. Os yw popeth ar eich cynllun i’w weld yn gyflawnadwy, y tebyg yw nad ydych chi’n meddwl yn ddigon mawr. Ond yn yr un modd, os ydych chi’n mynd ar ôl pob cyfle disglair, dydych chi ddim yn meddwl yn ddigon clir.

Dirprwyo o’i gymharu â dileu

Dyma wahaniaeth hanfodol: does dim angen i bopeth ar eich rhestr peidio â gwneud ddiflannu. Dylid dirprwyo rhai gweithgareddau. Dylid dileu eraill yn llwyr.

Mae dirprwyo’n golygu symud gwaith i’r person cywir. Mae dileu’n golygu cwestiynu a yw’r gwaith o bwys o gwbl. Cyn i chi drosglwyddo rhywbeth, holwch: “Pe tai neb yn gwneud hyn, beth fyddai’n torri mewn gwirionedd?”

Byddech chi’n synnu pa mor aml “dim” fydd yr ateb.

Diogelu egni sylfaenydd ar gyfer beth sy’n bwysig

Dim ond hyn a hyn o egni sydd gennych chi fel sylfaenydd. Mae cytuno i rywbeth eilbwys yn golygu gwrthod rhywbeth pwysig. Mae pob tân tactegol rydych chi’n ei ymladd yn amser strategol rydych chi’n ei golli.

Mae’r entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus rydw i wedi gweithio gyda nhw’n diogelu eu hegni’n ffyrnig. Maen nhw’n didoli tasgau gweinyddol. Maen nhw’n cyfyngu ar gyfarfodydd. Maen nhw’n creu amser wedi’i ddiogelu ar gyfer meddwl yn ddwfn. Maen nhw’n gwrthod yn gyflym heb euogrwydd.

Nid mater o weithio’n llai yw hyn. Mae’n fater o gyfeirio eich ymdrech i ble mae’n creu’r gwerth mwyaf. Mae’n golygu cydnabod bod ffocws yn fantais gystadleuol a bod tynnu sylw yn lladd twf. Un o’r darnau o gyngor rwy’n ei ail-ddweud fwyaf aml yw “un o’r cyfarfodydd pwysicaf yn yr wythnos yw’r un a gewch chi gyda chi’ch hun”. Rhowch amser i eistedd yn ôl a meddwl am gyfeiriad strategol eich busnes.

Dechreuwch gyda thri

Nid yw llunio rhestr peidio â gwneud yn golygu newid popeth dros nos. Dechreuwch yn fach. Nodwch dri pheth y byddwch chi’n peidio â’u gwneud, eu dirprwyo neu eu dileu y chwarter hwn.

Gall hi fod yn gyfarfod wythnosol sydd wedi colli’i bwrpas. Adroddiad rydych chi’n ei lunio nad yw neb yn ei ddefnyddio. Segment marchnad sy’n fwy o drafferth na’i werth e. Prosiect a oedd yn swnio’n gyffrous chwe mis yn ôl ond sy’n sugno adnoddau erbyn hyn heb gyflawni canlyniadau.

Rhowch ganiatâd i chi’ch hun ollwng gafael. Bydd eich busnes chi’n diolch i chi am wneud.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.