Newyddion

O'r sgript i'r sgrin: chwe ffilm Gymraeg yn derbyn cyllid i helpu i sicrhau llwyddiant

Shot from short film Pink, written & directed by Yassa Khan, produced by Triongl Productions - who have been awarded funding for their film Daffodil.

Mae Sinema Cymru, cydweithrediad rhwng S4C, Ffilm Cymru Wales a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, wedi cyhoeddi enillwyr ei ail rownd o gyllid, cynllun sy'n anelu at ddatblygu sawl cysyniad ffilm yn y Gymraeg gyda'r bwriad o symud o leiaf un ymlaen i gyllid cynhyrchu.

Mae chwe phrosiect wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer datblygu ffilm yn yr ail rownd hon:

  • Mogi - gan yr awdur/cyfarwyddwr Mared Swain, cynhyrchwyd gan Jessica Gardner yn Divergence Pictures
  • Awen - gan yr awdur Teleri Hughes
  • Llyfr Glas Nebo - gan yr awdur Manon Steffan Ros, cynhyrchwyd gan Hannah Thomas yn Severn Screen
  • Cwlwm - gan yr awdur/cyfarwyddwr Tom Chetwode-Barton, cynhyrchwyd gan Adam Knopf yn Riot Time Pictures: 
  • Whale Fall - gan yr awdur Hannah Daniel, y cyfarwyddwr Marc Evans, cynhyrchwyd gan Ffion Williams ac Adam Partridge yn Fiction Factory (cyd-gynhyrchiad gyda Samson Films, Iwerddon)
  • Daffodil - gan yr awdur/cyfarwyddwr Yassa Khan, cynhyrchwyd gan Nora Ostler Spiteri yn Triongl

Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map drwy gyflymu'r broses o greu ffilmiau annibynnol, mentrus ac anghonfensiynol, ac a allai gael eu rhyddhau i sinemâu rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid, a chymorth datblygu gyrfa hefyd i dimau creadigol, gan gynnig cynlluniau datblygu pwrpasol ynghyd â chyllid ar gyfer prosiectau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.