Newyddion

O focsio i fowlio - arbedion ynni sy'n rhoi dyfodol gwyrddach i chwaraeon

Minister Jack Sargeant at Llay Miners

Mae cynllun grant arbed ynni wedi buddsoddi dros £5.4miliwn i helpu clybiau chwaraeon ledled Cymru i wneud gwelliannau sy'n lleihau costau ynni ac yn gwneud eu hadeiladau'n fwy effeithlon.

O gadw clybiau chwaraeon yn glyd yn y gaeaf i baneli solar sy'n torri biliau trydan, mae mwy a mwy o glybiau wedi gallu gwneud uwchraddiadau craff er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni ac arbed arian diolch i'r cynllun Grantiau Arbed Ynni, sy'n cael ei redeg gan Chwaraeon Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r chwaraeon y dyfarnwyd cyllid iddynt yn amrywio o fowlio a bocsio, i feicio, sglefrfyrddio a chriced - ac maent yn cwmpasu pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Ers ei lansio yn 2023, mae clybiau wedi gallu gwneud cais am hyd at £25,000 i ariannu ystod o welliannau arbed ynni. Hyd yn hyn, bu 307 o ddyfarniadau sy'n dod i gyfanswm o tua £5.4 miliwn i 280 o wahanol glybiau. Eleni yn unig, dyfarnwyd 120 o wobrau gwerth tua £2.1miliwn.

Ar gyfartaledd, mae pob clwb yn arbed tua £3,000 ac yn gwrthbwyso 3.3 tunnell o garbon – amcangyfrifir fod hynny yn gwrthbwyso dros 840 tunnell o garbon y flwyddyn, gydag arbediad ynni amcangyfrifedig o tua £840,000 ar gyfer pob clwb gyda'i gilydd.

Mae'r mathau o brosiectau a gefnogwyd yn y gorffennol yn cynnwys y canlynol:

  • Goleuadau LED (ac eithrio goleuadau at ddibenion chwarae)
  • Paneli solar (a storio batris)
  • Ffabrigau inswleiddio/adeiladu (gwaith anstrwythurol ar doeon)
  • Ffynonellau gwresogi/dŵr poeth
  • Cyrchu dŵr cynaliadwy

Mae ceisiadau yn ailagor ar gyfer Grantiau Arbed Ynni ddiwedd mis Mai 2026 a gellir gwneud cais amdanynt ar wefan Chwaraeon Cymru.

Gallwch gofrestru ar gyfer Yr Addewid Twf Gwyrdd’ a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eich cynaliadwyedd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.