Newyddion

Nod y gwasanaeth golchi dillad yw bod ymhlith y rhai mwyaf effeithlon o ran ynni yn y DU

Staff at Snow White Laundries Ltd

Mae gwasanaeth golchi dillad teuluol yn anelu at ddod yn un o'r golchdai mwyaf effeithlon o ran ynni yn y DU gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Snow White Laundries Ltd, sy'n darparu gwasanaethau golchi dillad masnachol a domestig, yn defnyddio Cronfa Dyfodol yr Economi i ehangu a datgarboneiddio mewn cyfleuster newydd yn Noc Penfro, gan greu 15 o swyddi newydd.

Sefydlwyd y cwmni ym 1968 a bydd yn buddsoddi £1.69 miliwn yn yr offer a'r ehangu 'dim ffrwd', a fydd hefyd yn ei helpu i ddod yn un o'r cwmnïau golchi dillad annibynnol mwyaf yn y DU.

Bydd y peiriannau newydd yn helpu i leihau'r defnydd o ddŵr yn sylweddol, a byddant yn defnyddio 40 y cant yn llai o nwy. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio systemau rheoli ansawdd a reolir gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) i adennill ynni a fyddai fel arfer yn cael ei golli, gan helpu i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon drwy gydol y broses golchi dillad.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Nod y gwasanaeth golchi dillad yw bod ymhlith y rhai mwyaf effeithlon o ran ynni yn y DU | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.