Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn lansio adolygiad o nifer o rwymedïau cyfredol y farchnad i benderfynu a oes eu hangen o hyd.
Mae'r rhwymedïau sy’n cael eu hadolygu yn cynnwys sawl sector gan gynnwys gwasanaethau ariannol, teithio ac ynni.
Mae rhwymedïau’r farchnad wedi'u cynllunio i ddatrys problemau cystadleuaeth a nodwyd yn ystod ymchwiliadau’r farchnad. Maent yn chwarae rhan bwysig ond mae angen i fusnesau neilltuo arian ac adnoddau i gydymffurfio â nhw, felly mae'n bwysig bod rhwymedïau yn parhau i fod yn addas i'r diben.
Bydd ymgynghoriad nawr yn cael ei gynnal tan ddydd Llun 2 Mawrth 2026.
Am fwy o wybodaeth am bob rhwymedi sy'n cael ei adolygu, ewch i dudalen yr ymgynghoriad. Mae’r CMA hefyd wedi lansio ymgynghoriad yn ddiweddar ar gael gwared ar 37 o rwymedïau ynghylch uno cwmnïau.