Newyddion

Nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn cyrraedd 100

Anglesey-based BIC Innovation became fully employee owned via an Employee Ownership Trust (EOT)

Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru wedi cyrraedd 100 – sy'n cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r model perchnogaeth gan weithwyr a'r manteision y mae'n ei ddarparu i'r economi a chymunedau ledled Cymru.

Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru lawer yn uwch bellach na'r nifer yr ymrwymwyd iddo yn y Rhaglen Lywodraethu i ddyblu'r nifer yng Nghymru a chyrraedd 74 erbyn 2026.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi pryniannau gan weithwyr, ac mae Cwmpas yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo manteision perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru.

Daeth BIC Innovation o Ynys Môn yn eiddo i weithwyr trwy Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr (EOT) gyda chefnogaeth Cwmpas yn gynharach eleni.

Mae'r cwmni ymgynghori, sy'n arbenigo mewn arloesi a thwf ac sydd hefyd â swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi trosglwyddo i ddechrau i fod yn fusnes sy'n eiddo i weithwyr trwy gynllun perchnogaeth cyfranddaliadau yn 2018. Mae'r EOT bellach yn rhedeg y busnes er budd ei weithwyr, gan roi llais cryfach iddynt yn ei gyfeiriad at y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn cyrraedd 100 | LLYW.CYMRU.

Mae perchnogaeth gan weithwyr yn golygu bod gan bob gweithiwr fuddiant arwyddocaol ac ystyrlon yn y busnes.

Os yw buddiant rheolaethol yn eich busnes yn cael ei ddal gan neu ar ran yr holl weithwyr (y perchnogion-weithwyr), gelwir hyn yn fusnes a berchnogir gan weithwyr. Ewch i wefan Perchnogaeth Gweithwyr Cymru i gael cyngor pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn ar Berchnogaeth Gweithwyr, Cynlluniau Cyfranddaliadau ac opsiynau cynllunio olyniaeth yn eich busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.