
Mae manteision busnesau sy'n cael eu prynu gan weithwyr yn cael eu dathlu - wrth i nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru agosáu at 100.
Mae heddiw yn Ddiwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr ac mae ymchwil yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn perfformio'n arbennig o gryf, gyda gweithwyr yn dangos mwy o ymgysylltiad ac ymrwymiad.
Mae'r buddion masnachol hefyd dod yn fwyfwy poblogaidd, ac entrepreneuriaid yn creu busnesau newydd, i helpu i ddenu a gwobrwyo gweithwyr talentog a sbarduno twf busnes.
Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru bellach yn 95, sy'n llawer mwy na'r nifer yr ymrwymwyd iddo yn y Rhaglen Lywodraethu i ddyblu'r nifer yng Nghymru a chyrraedd 74 erbyn 2026.
Mae gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a Busnes Cymru a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi pryniannau gan weithwyr, gyda chymorth pwrpasol wedi’i ariannu’n llawn ar gael i helpu perchnogion busnesau i benderfynu ai perchnogaeth gan y gweithwyr a chynlluniau cyfranddaliadau yw’r opsiwn iawn i’w busnes.
Un cwmni sy'n derbyn cymorth o'r fath yw Grŵp Hyfforddiant Cambrian – un o ddarparwyr prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol arweiniol Cymru.
Sefydlwyd y cwmni o'r Trallwng, a nododd 30 mlynedd o fusnes trwy ddod yn eiddo i weithwyr yn gynharach eleni, yn 1995 fel is-gwmni i Twristiaeth Canolbarth Cymru i ddarparu sgiliau galwedigaethol a lletygarwch fel rhan o ddatblygiad sector twristiaeth y rhanbarth.
Erbyn hyn mae'n cyflogi 65 o staff ac mae wedi ehangu ei raglenni dysgu seiliedig ar waith, sgiliau a phrentisiaethau i ystod o sectorau eraill, gan gynnwys gweithgynhyrchu, manwerthu a gwasanaethau ariannol.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn agosáu at 100 | LLYW.CYMRU