
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), y corff hyd braich sy'n gyfrifol am brisio eiddo ar gyfer y dreth gyngor a chyfraddau busnes, yn cael ei thynnu i mewn i'w rhiant-adran, Cyllid a Thollau EF (CThEF), erbyn Ebrill 2026 er mwyn cynyddu effeithlonrwydd, profiad busnes ac atebolrwydd gweinidogol.
Mae'r mesur yn rhan o Ddiweddariad Treth llywodraeth y DU: Tax update spring 2025: simplification, administration and reform - GOV.UK
Fel rhan o'r diweddariad hwn, cyhoeddwyd 39 o fesurau i ddiwygio a symleiddio'r system treth a thollau. Am ragor o wybodaeth am y 39 mesur diwygio a gyhoeddwyd, darllenwch y Written Ministerial Statement.
Mae'r mesurau hyn yn cynnwys lleihau biwrocratiaeth i fusnesau bach trwy symleiddio sut mae TAW yn cael ei gweinyddu trwy newidiadau i'r Cynllun Nwyddau Cyfalaf TAW – cynllun sy'n caniatáu i fusnesau hawlio TAW ar eitemau cyfalaf drud, yn seiliedig ar eu defnydd hirdymor.
Bydd llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i dynnu offer cyfrifiadurol o asedau cymwys y Cynllun. Bydd yn cynyddu'r gwerth trothwy ar gyfer gwerth gwariant cyfalaf ar dir, adeiladau a gwaith peirianneg sifil o £250,000 i £600,000.
Bydd hyn yn rhyddhau amser a dreulir ac adnoddau a ddefnyddir wrth weinyddu trethi ar gyfer tua 105,000 o eiddo masnachol a fydd yn cael eu tynnu o'r cynllun.
Ar hyn o bryd, mae'n ofynnol i gynhyrchwyr gwirodydd traddodiadol sy'n cael eu diogelu gan statws Dynodi daearyddol dalu ffioedd dilysu i CThEF. Gall hyn gostio hyd at £11,410 bob dwy flynedd. Rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2031, bydd pob cynhyrchydd gwirodydd yn dechrau talu ffi unffurf o £250 bob dwy flynedd, waeth beth fo'r cynnyrch.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Valuation Office Agency scrapped in government drive to slash inefficiencies - GOV.UK