Newyddion

Nawr ar agor: Gwobrau Menywod sy’n Arloesi 2025/26

Female scientist

Mae Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation (UKRI), yn cynnig hyd at 60 o Wobrau Menywod sy’n Arloesi i fenywod sy'n sylfaenwyr a chyd-sylfaenwyr busnesau micro, bach neu ganolig (BBaChau) ledled y DU. Mae hyn yn amodol ar dderbyn nifer ddigonol o geisiadau o ansawdd uchel.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn derbyn hyd at £75,000 o gyllid grant a chymorth busnes pwrpasol am 12 mis.

Bydd cyfran o ymgeiswyr sydd wedi cael canmoliaeth uchel nad ydynt wedi cael cyllid grant yn y gystadleuaeth hon yn cael cynnig cymorth busnes pwrpasol am 12 mis.

Nodau'r gystadleuaeth hon yw cefnogi enillwyr Gwobrau Menywod sy’n Arloesi:

Mae'r gystadleuaeth yn cau: ddydd Mercher 4 Chwefror 2026 am 11am.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Competition overview - Women in Innovation Awards 2025/26 - Innovation Funding Service.

Gall arloesi helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a chyrraedd marchnadoedd newydd. Yma gallwch ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Cymorth ac arian | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.