
O 13 Hydref 2025, bydd angen i gwsmeriaid ddefnyddio GOV.UK One Login i fewngofnodi i'w cyfrif WebFiling Tŷ'r Cwmnïau.
Ni fyddwch yn gallu cyrchu WebFiling heb gysylltu â GOV.UK One Login.
Byddwch yn dal i allu ffeilio dogfen arwystl (morgais) heb gysylltu’ch cyfrif â GOV.UK One Login.
Mae GOV.UK One Login yn darparu:
- mynediad i nifer o wasanaethau’r llywodraeth gyda’r un manylion mewngofnodi
- mynediad mwy diogel trwy ddilysiad dau ffactor
- yr opsiwn i ddefnyddio GOV.UK One Login i gwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
Dros amser, bydd GOV.UK One Login yn amnewid holl ffyrdd eraill o fewngofnodi i wasanaethau ar GOV.UK, gan gynnwys Porth y Llywodraeth.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Mynediad at gyfrifon WebFiling Tŷ'r Cwmnïau yn symud i GOV.UK One Login - GOV.UK