Bydd mwy na £19.6 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn adfywio canol trefi ledled Cymru, gan gyflawni prosiectau adfywio trawsnewidiol a fydd yn creu mannau ffyniannus i gymunedau fyw, gweithio a mwynhau.
Bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn derbyn cyllid grant drwy raglenni Trawsnewid Trefi a Gwneud Lleoedd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag eiddo gwag, gwella mannau cyhoeddus a sbarduno twf economaidd yn y cymunedau sydd ei angen fwyaf.
Ymhlith y prosiectau sy'n derbyn cymorth bydd Cyngor Sir Ceredigion yn elwa ar hyd at £2.3 miliwn i greu parth Diwylliant a Chymuned yn adeilad hanesyddol Hen Goleg Aberystwyth, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.
Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau bron i £1 miliwn ar gyfer Menter Eiddo Gwag Bangor, ac mae Cyngor Abertawe wedi derbyn mwy na £650,000 o gyllid grant a benthyciad ar gyfer elfennau masnachol a manwerthu'r datblygiad Biophilic Living.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Mwy na £19 miliwn i roi bywyd newydd i ganol trefi Cymru | Welsh Govenment News.