Newyddion a Blogiau

Mwy na Delwedd, mwy na Draig: Hunaniaeth, Hyder y Cymry a goroesi mewn busnes yng nghefn gwlad Cymru

Tasai 'na berson busnes yn gallu potelu a gwerthu'r teimlad o falchder cenedlaethol a deimlon ni i gyd yn ystod Ewro 2016, mi fasai wedi hen wneud ei ffortiwn. Er hynny, unwaith yr aeth y baneri yn ôl i'w bocsys dan y gwely, y distewodd y canu, y sobron ni i gyd – beth wedyn? Dydi'r Cymry – yn nodweddiadol beth bynnag - ddim yn y bobl mwyaf hyderus. Ond i mi, mae bod yn llwyddiannus mewn busnes yng nghefn gwlad Cymru yn dibynnu ar hunaniaeth a hunan-hyder cyson a chynnil sydd tu hwnt i ddelwedd y ddraig ar grys pel-droed. 

Os edrycha i ar rai o'r busnesau o'm cwmpas, mae sawl peth yn gyffredin - Nôl i'n gwreiddiau, bobloedd!

"Defnyddia bob dim 'sgin ti." - Dyna'r cyngor gorau i mi ei gael erioed a hynny'n 14 oed yn mynd am gyfweliad mewn tafarn lleol a dw i wastad wedi ei gymeryd yn eithaf llythrennol. Tydan ni'n bobl sy'n dod o genhedlaethau sydd wedi arfer crafu byw a'r pres prin hwnnw, mewn un ffordd neu'i gilydd, yn dod o'r tir? Mae'n bwysig dod â'r dyfeisgarwch hwnnw yn ôl pan yn rhedeg busnes. Bellach dw i'n gwneud hanner fy mywoliaeth yn dysgu fy mamiaith. Dw i wastad wedi gweld cyfle yma i droi'r Gymraeg fel ail iaith i mewn i fusnes fel ag y mae'r Saesneg, Sbaeneg a Ffrangeg os ewch chi i unrhyw wlad yn Ewrop a thu hwnt. Mae hanner arall fy musnes
wedi datblygu yn sgil treulio fy ugeiniau yn gweithio i gwmniau teledu. Gallwch fod yn ddyfeisgar mewn sawl ffordd. Edrychwch ar
CellB, hen orsaf heddlu Blaenau Ffestiniog, sydd bellach yn lleoliad ar gyfer cerddoriaeth byw, sinema a hostel. Does yr un congl yn cael ei wastraffu. Mae Antur Stiniog hefyd wedi rhoi Blaenau ar y map ym myd antur a hynny trwy ddefnyddio llethrau'r chwareli. Mae sawl crefftwr a gwneuthurwr bwyd trwy Gymru'n defnyddio cynnyrch a deunyddiau lleol a sawl un yn parhau â thraddodiad sy'n eu teuluoedd ers ddegawdau neu ganrifoedd, a'r rhai llwyddiannus wedi dod o hyd i niche sy'n ffitio â'r byd modern.

Y siop lawr y ffordd - Mae'n bwysig ymddiried mewn busnesau lleol eraill a chefnogi ein gilydd gan dalu'n iawn i gwmni lleol yn hytrach na phrynu'n rhatach dros y we gan gwmni mawr.  Boed hynny'n golygu talu i ddylunydd graffeg am gardiau busnes neu brynu anrheg i ffrind, dim ond trwy i ni fel busnesau bychain fuddsoddi yn ein gilydd a pharchu ein gilydd y mae modd i ni gynnal hwb egniol y gallwn ymfalchio ynddo yn ein cymunedau gwledig. Mae'r syniad hwnnw o gydweithio waeth ar ba lefel yn creu'r teimlad o hyder rydan ni i gyd ei angen i oroesi heb son am fod o faintais i'r economi leol. Gorau chwarae, cyd chwarae ynde!

Gwerthu i'r byd – Mae cyfle yng nghefn gwlad Cymru i ddisgleirio, ond beth am y byd tu allan a thu hwnt i'n carreg ddrws? Diolch i'r cyfryngau cymdeithasol a rhai fel Yr Awr Gymraeg yn ein hyrwyddo ni'n gyson, dw i'n teimlo bod gosod eich hun ar y map yn rhywbeth sy'n dod yn haws. Dw i'n meddwl ei fod yn hollbwysig peidio â dibynnu'n ormodol ar y filltir sgwar – mae mor hawdd gwneud
yntydi, tydi pawb yn nabod pawb! Mae angen bod yn greadigol. Mae mentro i'r byd tu allan yn rhywbeth cyffrous, a rhywbeth sydd
wedi bod yn hanfodol i mi. Bellach mae gen i ddysgwyr o Miami i Madrid, ond hefyd Llanrug a Thrawsfynydd. Cydbwysedd! Gwych oedd clywed yn ddiweddar bod modd gwneud taith o amgylch Cwrw Llŷn mewn dewis o 5 iaith. Tydi'r poteli cwrw mor Gymreig
eu naws? Ond dyna ni wedyn yn agor y drws i gymaint o bobl newydd. Mae eang-frydedd fel hyn yn werthfawr dros ben.

O'm profiad i, mae cwsmeriaid o du allan i Gymru'n gwirioni ar yr hyn sydd gennym ni i'w gynnig – o ran cynnyrch a 'chalon'. Yn syml, bod yn ti dy hun –  Synnwyr cyffredin ydi hyn wrth gwrs. Gweithio mor eang â phosib ond heb 'golli' dy gynnyrch neu wasanaeth a dy bersonoliaeth – dyna sy'n bwysig. Rhwng ein hiaith, ein balchder a chadw'n traed ar y ddaear tra'n anelu am y byd, mae gennym ni bopeth i'w gynnig. Dianc i'r mynyddoedd ydi un o fy hoff bethau. Dw i'n mynd mor aml ag y gallai. Dan ni mor lwcus i gael gweithio a byw mewn gwlad mor drawiadol o hardd. Yn hwyrach eleni, mae Gwefus yn gobeithio cynnig cyrsiau Cymraeg, chwedlau a cherdded i ymwelwyr. Mae angen manteisio ar awyr iach hyd yn oed, yndoes!

Ar ddiwedd y dydd, mae yna ddigon ohonon ni yn y gêm yma i gysylltu â'n gilydd am gyngor a help llaw. Mae Cymru a'i hunaniaeth mewn cyfnod ansicr ac ansefydlog. Dydi peidio â mentro - efo'n gilydd - ddim yn opsiwn. Hunaniaeth a hunan-hyder amdani!
 

Gan Llinos Griffin, Gwefus, Gwynedd


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.