Newyddion

Modiwl dysgu ar-lein newydd ar Gaethwasiaeth Fodern

person using a laptop - online course

Caethwasiaeth fodern yw pan fo pobl yn cael eu hecsbloetio er budd personol neu fasnachol. Mae'n cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ledled Cymru, y DU a gweddill y byd.

Mae modiwlau Dysgu Ar-lein Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Rydym yn annog y rhai sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn lleoliadau sydd â risg uchel o gaethwasiaeth fodern, yn ogystal â’r rhai sy'n ymgysylltu â phobl a allai fod yn cael hecsbloetio neu a allai fod wedi cael eu hecsbloetio, i gwblhau’r dysgu.

Mae tri modiwl yn rhan o gwrs Dysgu Ar-lein Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru. Byddan nhw’n eich helpu i ddysgu am ecsbloetio yng Nghymru:

  • Modiwl 1: Cyflwyniad i Gaethwasiaeth Fodern
  • Modiwl 2: Adnabod Arwyddion Caethwasiaeth Fodern
  • Modiwl 3: Diogelu Dioddefwyr a Goroeswyr Caethwasiaeth Fodern

Datblygwyd y cwrs dysgu ar-lein hwn gan Lywodraeth Cymru ynghyd â phartneriaid amlasiantaethol. Mae i’w gael yn rhad ac am ddim ar y platfform Learning@Wales: Cwrs: Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Datganiad Ysgrifenedig: Modiwl dysgu ar-lein newydd ar Gaethwasiaeth Fodern (16 Hydref 2025) | LLYW. CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.