Newyddion

Mis Ymwybyddiaeth Straen 2025

stressed office worker under pressure

Mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Straen, a bydd gwybod sut i adnabod arwyddion straen yn helpu cyflogwyr i gymryd camau i atal, i leihau, ac i reoli straen yn y gweithle.

Mae Mis Ymwybyddiaeth Straen wedi dewis thema wahanol bob blwyddyn ers dros 30 mlynedd bellach, gyda phob un yn adlewyrchu heriau cymdeithasol. Y thema ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Straen 2025 yw arwain gyda chariad, neu #leadwithlove

#LeadWithLove – galwad bwerus i weithredu, sydd wedi'i gwreiddio yn egwyddorion Ystyriaeth Gadarnhaol Ddiamod. Mae'r thema hon yn ein hannog i ystyried ein hunain ac eraill gyda charedigrwydd a thosturi, ac i dderbyn pwy ydym, waeth pa heriau sy'n ein hwynebu: Stress Awareness Month 2025 - The Stress Management Society

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu gweithwyr rhag straen yn y gwaith, a hynny trwy gynnal asesiad risg a chymryd camau priodol ar ei sail. Y cynharaf y bydd problem yn cael ei datrys, y lleiaf fydd ei heffaith.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) amrywiaeth o gymorth ac arweiniad ymarferol ar gael: 

Mae gan Acas, sy’n arbenigwyr ar y gweithle, hefyd lawer o wybodaeth a all helpu cyflogwyr, rheolwyr, a staff i reoli straen: Managing work-related stress - Acas

Boed chi’n hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylem oll gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni a’n gweithwyr. Dysgwch fwy yma: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.