
Mae Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos yn tynnu sylw at effaith y menopos ar weithwyr a'r gweithle. Gall cyflogwyr yng Nghymru greu amgylchedd lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Gall y menopos gael effaith sylweddol ar lesiant gweithwyr a’u perfformiad yn y gwaith. Mae cyflogwyr sy’n cynnig cymorth yn creu amgylchedd gwaith iachach a mwy cynhyrchiol.
Mae’r manteision allweddol yn cynnwys:
- Gweithwyr sy’n profi’r menopos yn teimlo gwelliant o ran eu llesiant a’u hyder
- Diwylliant mwy cynhwysol a chefnogol yn y gweithle
- Llai o absenoldebau a mwy o gadw staff
- Mwy o ymgysylltiad a chynhyrchiant ymhlith gweithwyr
- Cryfhau enw da cyflogwr am gefnogi llesiant y gweithlu
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos - Cymru Iach ar Waith