Mae Mis Hanes LHDT+ i bawb; p'un ai ydych chi'n gweithio ym myd addysg, mewn amgueddfa, llyfrgell neu oriel gelf, busnes, gwasanaeth, neu'n aelod o rwydwaith/grŵp cymdeithasol neu’n unigolyn.
Caiff ei ddathlu bob mis Chwefror ar draws y DU.
Bob blwyddyn mae Schools OUT yn gosod thema wahanol ar gyfer Mis Hanes LHDT+ ac mae’n rhoi adnoddau rhad ac am ddim i leoliadau addysg, busnesau, gwasanaethau a sefydliadau i'w helpu i ddathlu ac 'Arferoli' bywydau LHDT+ yn eu holl amrywiaeth. Thema eleni yw 'Gwyddoniaeth ac Arloesi'.
Mae gwyddoniaeth ac arloesi’n effeithio ar ein bywydau bob dydd, o'r dechnoleg rydyn ni'n ei defnyddio i ddatblygiadau mewn gofal iechyd, yn ogystal â'n helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang fel newid yn yr hinsawdd a mynediad at ynni glân.
Mae timau amrywiol yn hanfodol ar gyfer datblygu atebion sydd o fudd i bawb, ond efallai y byddwn yn aml yn cael trafferth enwi gwyddonwyr ac arloeswyr LHDT+. Nod thema 2026 ar gyfer Mis Hanes LHDT+ yw tynnu sylw at gyfraniadau pobl LHDT+ yn hanesyddol a heddiw, a chodi ymwybyddiaeth o'r bobl y tu ôl iddynt.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: LGBT+ History Month 2026 - LGBT+ History Month.
Darllenwch gynllun Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf LHDTC+ gyfeillgar yn Ewrop: Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru | LLYW. CYMRU.