Newyddion

Mis Derbyn Awtistiaeth y Byd Ebrill 2025

office worker wearing a blue shirt

Bydd Mis Derbyn Awtistiaeth y Byd yn dechrau ddydd Mercher 2 Ebrill 2025, sef Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd.

Mae Mis Derbyn Awtistiaeth y Byd yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd a chodi ymwybyddiaeth, annog derbyn, a chreu cymdeithas lle mae pobl awtistig yn cael eu cefnogi, eu deall a'u grymuso. P'un ai ydych gartref, yn yr ysgol neu yn y gwaith, gall eich cyfraniad wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Eich gweithredoedd sy’n bwysig - p'un ai ydych chi'n cefnogi cydweithwyr, myfyrwyr neu aelodau o'ch teulu sy’n awtistig, gallwch helpu i greu byd cynhwysol lle mae awtistiaeth yn cael ei derbyn.

Trwy gydol y mis, gwahoddir busnesau a sefydliadau i greu gweithleoedd mwy cynhwysol, a gall eich cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.