Mae’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi croesawu cefnogaeth i 20 o brosiectau ynni adnewyddadwy maw, sy’n gyfanswm o fwy na 530 MW, yng Nghymru, a allai arwain at greu miloedd o swyddi gwyrdd.
Dyma’r nifer mwyaf erioed o brosiectau Cymru i dderbyn cefnogaeth yn arwerthiant Contracts for Difference Llywodraeth y DU.
Yn y rownd ddiweddaraf a gyhoeddwyd heddiw, derbyniodd pump o brosiectau gwynt ar y tir, 12 prosiect solar a thri phrosiect ynni llanw warant gontractiol ar bris yr ynni maent yn ei gynhyrchu, sy’n galluogi i waith ddechrau ar y prosiectau hyn. Sicrhaodd Cymru 99.65% o’r holl gyllid ar gyfer ynni llanw.
Yn ogystal â chynhyrchu miloedd o swyddi, bydd hyn yn creu cyfleoedd economaidd i gwmnïau Cymreig eraill ac yn helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Miloedd o swyddi gwyrdd i Gymru wrth i brosiectau ynni adnewyddadwy gael cefnogaeth | LLYW.CYMRU ac Contracts for Difference - GOV.UK.