Newyddion

Miliynau i foderneiddio amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau Cymru

Helen Fychan

Disgwylir i dri deg un o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol ledled Cymru dderbyn rhan o hwb ariannol o £5.28 miliwn, gan helpu i wella mynediad at ddiwylliant, diogelu casgliadau a moderneiddio cyfleusterau i gymunedau.

Mae'r prosiectau a ariennir yn cwmpasu pob un o'r tri sector ac yn cynnwys sefydliadau o wahanol feintiau, o wasanaethau awdurdodau lleol mawr i amgueddfeydd annibynnol bach a chymunedol.

Maent yn amrywio o Amgueddfa Forwrol Caergybi ar Ynys Môn ac Amgueddfa Penmaenmawr ar arfordir gogledd Cymru, i Ganolfan Dreftadaeth Doc Penfro yn y de-orllewin a Chanolfan yr Aifft ac Amgueddfa Abertawe yn y de.

Mae'r prosiectau'n ymestyn o Archifau Richard Burton yn Abertawe ac Amgueddfa'r Llinell Danio yng Nghaerdydd, i brosiect Agor Powys yng nghanolbarth Cymru - gyda buddsoddiad pellach yng Ngheredigion, Gwynedd, Sir Ddinbych, Conwy, Sir Fynwy a Merthyr Tudful.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi darparu cynlluniau grant diwylliannol trylwyr sydd wedi'u cynllunio i fod yn hygyrch i sefydliadau o bob maint, gan gynnwys cyrff annibynnol a gwirfoddol llai, lle roedd grantiau o hyd at £500,000 ar gael ar gyfer prosiectau.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Trawsnewid diwylliant mewn cymunedau – miliynau i foderneiddio amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau Cymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.