
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn ar gynigion i wrthweithio dulliau hysbys o osgoi ardrethi annomestig (ardrethi busnes) ac yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer rheoliadau i wneud y canlynol:
- diffinio ystod o drefniadau osgoi artiffisial, gan roi effaith i'r fframwaith gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol yr ydym wedi'i sefydlu
- creu dyletswydd i dalwyr ardrethi roi gwybod am newidiadau penodol mewn amgylchiadau i awdurdodau bilio
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 30 Mehefin 2025: Mesurau i fynd i’r afael ag osgoi ardrethi annomestig | LLYW.CYMRU
Am ragor o wybodaeth ewch i'r ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghoriad ar fesurau i fynd i'r afael ag osgoi ardrethi annomestig (7 Ebrill 2025) | LLYW.CYMRU