
Mae partneriaeth unigryw sy'n helpu i dyfu economi Cymru drwy droi syniadau arloesol yn realiti gan ddefnyddio ymchwil o'r radd flaenaf yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Mae rhaglen Airbus Endeavr Wales, a ddathlodd 15 mlynedd o lwyddiant yn ddiweddar, yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Airbus Defence and Space, a Phrifysgol Caerdydd sy'n cynrychioli'r sector prifysgolion yng Nghymru.
Mae menter Endeavr, sy'n rhoi cyfle i brifysgolion a busnesau bach a chanolig (BBaCh) weithio gydag Airbus a datblygu atebion arloesol i broblemau cymhleth, wedi atynnu £1.6 miliwn o gyllid o ffynonellau eraill yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig – swm sy’n fwy na'r buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid.
Mae bellach wedi derbyn estyniad ariannol gan Lywodraeth Cymru ac Airbus Defence and Space ar sail 50-50.
Un BBaCh sy'n elwa o'r rhaglen yw busnes newydd seiberddiogelwch Nisien, sy'n deillio o Brifysgol Caerdydd ac sydd hefyd yn arwain Hyb Arloesedd Seiber Cymru – rhaglen a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru i ysgogi twf yn y sector seiberddiogelwch ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae Nisien yn gweithio gydag Airbus ar ganfod gwybodaeth sydd wedi'i chynhyrchu gan ddefnyddio AI, i ganfod camwybodaeth bosibl yn gywir ar draws platfformau ar-lein mewn amser real. Mae Nisien wedi creu 14 o swyddi eleni.
Am ragor o wybodaeth dewisiwch y ddolen ganlynol: Menter ar y cyd yn tyfu economi Cymru drwy arloesi sy'n mynd o nerth i nerth | LLYW.CYMRU