Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd ariannu sydd ar gael i fusnesau Cymru arloesi a buddsoddi mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd.
Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael mynediad at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP26 - Cyfarfod Cefnogi Arloesi Ar-lein.
Gweler isod y cyfleoedd cyllido diweddaraf gan Innovate UK:
Dadansoddi ar gyfer Arloeswyr (A4I) hydref 2026 - Gwahoddir busnesau bach a chanolig y DU i wneud cais am rownd ddiweddaraf A4I, rhaglen sydd wedi'i chynllunio i helpu busnesau i oresgyn problemau mesur a dadansoddi heriol sy'n atal arloesi, cynhyrchiant a thwf. Yn cau 6 Hydref. Dysgwch fwy.
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP): Rownd 3 2026 – 2027 - Gall sefydliadau academaidd cofrestredig y DU, sefydliadau ymchwil a thechnoleg neu Catapults, sy'n gweithio gyda busnesau, wneud cais am gyfran o hyd at £12.5m i ariannu prosiectau arloesi. Yn cau 14 Hydref. Dysgwch fwy.
Partneriaethau Buddsoddwyr – ACT a Lled-ddargludyddion - Wedi'i hariannu gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'r Adran Busnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach (BIST), mae'r gystadleuaeth hon yn canolbwyntio ar ddwy dechnoleg sydd ar flaen y gad ac wedi’u nodi yn Strategaeth Ddiwydiannol Fodern y DU gan gynnig cyfran o hyd at £15 miliwn i fusnesau bach a chanolig sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Yn cau 14 Hydref. Dysgwch fwy.
Cyngor Arloesi Ewrop: Rhaglenni Braenaru, Pontio, a Chyflymu 2026 - Cyfleoedd ariannu gwerth dros €1.4 biliwn ar gyfer technolegau strategol a chwmnïau sy’n ehangu, gyda grantiau o hyd at €4 miliwn. Yn cau 28 Hydref. Dysgwch fwy.
Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol: Rownd 11, busnes ac anacademaidd - Gall sefydliadau cofrestredig yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £110 miliwn i ddarparu ymchwil ac arloesi uchelgeisiol a datblygu arweinwyr y dyfodol. Ariannwyd gan UK Research and Innovation (UKRI). Yn cau 4 Tachwedd. Dysgwch fwy.
Horizon Europe 2026-27: Digidol, diwydiant a’r gofod (Clwstwr 4) - Gall busnesau, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, elusennau, a sefydliadau nid-er-elw fod yn gymwys i wneud cais am gyllid Horizon Europe i hybu ymchwil ac arloesi blaengar, gan greu effaith barhaol a newid ystyrlon. Dyddiadau cau amrywiol o Fawrth 2026 i Fedi 2027: gweler galwadau unigol am fanylion. Dysgwch fwy.
Gall arloesedd helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.