Newyddion

Masnachwyr sy'n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon

Export and logistics manager in a warehouse

Os yw eich busnes yn symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon (GB i NI) mewn parseli neu lwythi a gludir trwy fferi gyrru i mewn ac allan, mae angen i chi fod yn ymwybodol o drefniadau newydd ar gyfer datganiadau crynodeb mynediad (ENS) o 1 Medi 2025.

System Rheoli Mewnforio 2 (ICS2) yw'r system wybodaeth diogelwch a diogeledd newydd ar gyfer symudiadau i mewn i Ogledd Iwerddon (NI) a'r Undeb Ewropeaidd (EU).

Mae'r system hon yn disodli’r system bresennol, sef 'System Rheoli Mewnforio Gogledd Iwerddon' (ICS NI). Bydd angen i chi ddefnyddio'r system ICS2 i barhau i wneud datganiadau ENS wrth symud nwyddau yn yr awyr, ar y môr, ar y ffordd neu reilffordd o:

  • Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon (GB i NI)
  • gwledydd y tu allan i UE i mewn i Ogledd Iwerddon
  • Prydain Fawr i UE

Wrth symud nwyddau ar eich rhan, bydd angen gwybodaeth benodol ar eich cludwr neu fusnes logisteg arall i sicrhau bod y datganiadau ENS yn cael eu cwblhau fel bod eich nwyddau yn symud yn gyflym ac yn hwylus.

Er mwyn cadw eich nwyddau i symud, mae'n bwysig eich bod chi'n barod i ddarparu'r wybodaeth hon i'r person perthnasol yn eich cadwyn gyflenwi.


Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar GOV.UK, megis:

Busnes Cymru Allforio: Cael yr wybodaeth ddiweddaraf i'ch helpu i archwilio marchnadoedd, dod o hyd i gleientiaid, gwirio rhwystrau, rheoli llwythi a llawer mwy: Allforio


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.