Newyddion

Manteisio ar Adolygiad Diogelwch Arloesi Diogel a ariennir gan Lywodraeth y DU: dyddiad cau yn agosáu

cyber security digital padlock

Ydych chi'n rhedeg busnes yn y DU sy'n gweithio ar dechnoleg arloesol? Ydych chi'n chwilio am gyngor diogelwch y mae modd ei weithredu sy'n diogelu eich buddsoddiad mewn arloesedd ac yn rhoi llwyfan i chi ar gyfer twf? Yna ystyriwch Adolygiad Diogelwch Arloesi Diogel.

Gall y cynllun hwn gan Lywodraeth y DU, a gyflwynir trwy Innovate UK, helpu busnesau fel eich un chi i nodi a rheoli risgiau diogelwch allweddol ac integreiddio diogelwch amddiffynnol yn eich strategaeth fusnes ehangach. Mae Llywodraeth y DU yn rhoi grant o £2,500 ac mae eich busnes yn cyfrannu £500.

Bydd Adolygydd Diogelwch cymeradwy yn asesu dull diogelwch presennol eich busnes ac yn rhoi arweiniad arbenigol ar fesurau diogelwch doeth a sut y gallwch wneud diogelwch yn alluogwr strategol ar gyfer twf yn eich busnes, trwy wella hyder buddsoddwyr a chwsmeriaid.

Os ydych chi'n ymrwymo i ymchwil a datblygu neu bartneriaethau masnachol, yn ceisio diogelu eiddo deallusol neu galedu eich systemau a'ch cyfleusterau rhag ymyrraeth, yna ystyriwch wneud cais i leihau eich amlygiad i risg diogelwch a gwneud y mwyaf o'ch cyfleoedd i ffynnu.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Ionawr 2026.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Secure Innovation Security Reviews - Innovate UK Business Connect

Mae cefnogaeth hefyd ar gael yng Nghymru trwy:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.