Newyddion

"MAE’R METRO AR DDECHRAU" gyda Rhwydwaith Gogledd Cymru

Wrexham Railway station

Mae gweledigaeth uchelgeisiol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, rheolaidd iawn ar gyfer Gogledd Cymru, gyda gwasanaethau metro niferus yn ganolog iddo, wedi'i ddadorchuddio Heddiw (22 Mai).

Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn rhaglen waith gref sy'n canolbwyntio ar deithwyr i gysylltu cymunedau'n well, gyda mwy o wasanaethau trenau a bysiau a mwy o integreiddio. Ei nod yw gwneud y mwyaf o gyfleoedd a datgloi potensial economaidd Gogledd Cymru a'r rhanbarth trawsffiniol.

Wedi'i ddadorchuddio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, bydd Rhwydwaith y Gogledd yn gweld gwasanaethau trên ar ffurf metro ar brif linell Gogledd Cymru, llinell y Gororau (Caer i Wrecsam) a chysylltiad rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl.

Mae newidiadau wrthi'n cael eu gwneud, gyda llu o welliannau wedi'u cynllunio ar gyfer y deuddeg mis nesaf, y tair blynedd nesaf a hyd at 2035. Mae amcanion tymor hwy yn cynnwys diffinio targedau yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau amlach, ailagor gorsafoedd sydd wedi cau, creu gorsafoedd newydd ac edrych ar rôl dulliau trafnidiaeth newydd fel trenau tram.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: "MAE’R METRO AR DDECHRAU" gyda Rhwydwaith Gogledd Cymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.