 
  Mae'r Pecyn Cymorth Gweithredu Seiber yn offeryn seiberddiogelwch rhad ac am ddim, wedi'i bersonoli gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer unig fasnachwyr a sefydliadau bach.
Mae'r pecyn cymorth yn rhannu seiberddiogelwch yn gamau syml, cyraeddadwy. Gallwch weithio wrth eich pwysau eich hun, ac mae'n olrhain eich cynnydd wrth i chi fynd yn eich blaen. Mae'n helpu i amddiffyn arian ac enw da eich busnes rhag seiberdroseddwyr. Dysgwch fwy am y Pecyn Cymorth Gweithredu Seiber.
Mae cefnogaeth hefyd ar gael yng Nghymru trwy:
- Mae gan Hyb Arloesedd Seiber atebion hyfforddi wedi'u teilwra sy'n diwallu eich anghenion seiber penodol ac yn cynnig cyfle i uwchsgilio eich tîm gyda'r datblygiadau diweddaraf mewn seibergdiogelwch.
- Mae gan y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru ystod o ganllawiau i'ch gwneud yn fwy seibergadarn.