Newyddion

Mae’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesu yn agosáu

31 date for deadline

Mae gan filiynau o drethdalwyr lai na mis i gyflwyno eu ffurflen dreth Hunanasesiad erbyn dyddiad cau 31 Ionawr 2026.

Mae nifer o adnoddau sy’n rhoi help a chymorth arlein ar gael yn GOV.UK i helpu pobl i lenwi a chyflwyno eu ffurflen dreth.

Y ffordd hawsaf i dalu yw drwy ap CThEF. Gall cwsmeriaid hefyd osod hysbysiadau yn yr ap i sicrhau eu bod yn gwybod pryd mae taliadau’n ddyledus fel nad ydynt yn colli dyddiad cau.

Mae gwybodaeth am wahanol ffyrdd o dalu i’w chael ar GOV.UK.

Mae angen i gwsmeriaid nad ydynt yn gallu cyflwyno’u ffurflen dreth erbyn y dyddiad cau roi gwybod i CThEF cyn y dyddiad cau.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: 5.65 million still to file as the Self Assessment deadline looms - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.