Blogiau

Mae stori’ch twf yn offeryn recriwtio: defnyddio cyfathrebu i ddenu talent, nid dim ond cwsmeriaid

Woman smiling at camera in restaurant

Gan Sara Robinson, Hyfforddwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu'r Rhaglen Cyflymu Twf

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau sy'n tyfu yn meddwl am gysylltiadau cyhoeddus a phroffil fel offeryn gwerthu. Gall sylw yn y wasg ddenu cwsmeriaid, gall gwobrau helpu i ennill contractau, tra bydd presenoldeb cryf ar LinkedIn yn creu ymddiriedaeth gyda chleientiaid. Gwir pob gair. Ond mae yna ail gynulleidfa sy’n darllen popeth rydych chi'n ei gyhoeddi, sef y bobl rydych chi'n ceisio'u cyflogi.

Mae hyn o fwy o bwys nag y mae'r rhan fwyaf o arweinwyr busnes yn ei sylweddoli. Mae ymchwil gan LinkedIn ac Indeed yn dweud bod cyfran yr ymgeiswyr sy'n ymchwilio i enw da cwmni cyn gwneud cais tua 75%, gan godi i 92% cyn y byddan nhw’n derbyn cynnig. Mae enw da cryf, sydd wedi'i reoli'n dda, hefyd yn gysylltiedig â chostau cyflogi sylweddol is, gyda rhai astudiaethau'n nodi'r gostyngiad mewn cost fesul cyflogai mor uchel â 43%. Mae'r rhan fwyaf o'ch darpar weithwyr eisoes wedi ffurfio barn am eich busnes cyn i chi bostio hysbyseb swydd, heb sôn am gwrdd â nhw.

Ar gyfer busnesau twf uchel, recriwtio yw'r rhwystr mwyaf rhag tyfu yn aml. Gallwch chi gael y cyllid, y cynnyrch a'r uchelgais a dal i oedi oherwydd na allwch chi ddod o hyd i'r bobl iawn yn ddigon cyflym. Ni fydd cyfathrebu yn gwella hynny ar ei ben ei hun, ond mae'n ddylanwad nad yw'r rhan fwyaf o fusnesau'n manteisio arno.

Mae pobl yn craffu arnoch chi eisoes cyn i'r cyfweliad ddechrau

Cyn i unrhyw un wneud cais am rôl, maen nhw'n ymchwilio i chi. Maen nhw'n edrych ar eich gwefan chi, eich tudalen LinkedIn, unrhyw adolygiadau o sylw yn y wasg gan staff presennol neu flaenorol. Mae'r hyn maen nhw'n ei ddarganfod yn llywio a ydyn nhw'n gwneud cais o gwbl a'r hyn maen nhw'n ei ddisgwyl os gwnân nhw hynny.

Os nad yw'r chwiliad hwnnw'n dod o hyd i ddim byd ond gwefan foel a thudalen LinkedIn sydd heb bostio ers chwe mis, rydych chi wedi dweud rhywbeth wrthyn nhw, hyd yn oed os nad dyna oedd eich bwriad chi. Gall tawelwch gyfleu marweidd-dra. Mae busnes sy'n tyfu'n amlwg, sy’n adrodd ei stori ac sy’n ymddangos yn gyson yn y wasg yn arwydd o fomentwm.

Stori’ch twf yw eich cynnig recriwtio cryfaf.

Yn aml, y stori rydych chi'n ei hadrodd i ennill cwsmeriaid a buddsoddiad yw'r un stori sy'n gwneud i rywun ddymuno gweithio i chi. Mae twf, uchelgais, brwdfrydedd a syniad clir o gyfeiriad yn apelio at ymgeiswyr cryf cymaint ag y maen nhw’n apelio at brynwyr.

Weithiau mae sylfaenwyr yn trin sylw yn y wasg, ceisiadau am wobrau neu astudiaethau achos yn beth ar wahân i recriwtio, yn rhywbeth y mae'r tîm marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus yn ei drin. Ond pan fydd newyddiadurwr yn ysgrifennu am eich rownd ariannu, neu pan fyddwch chi'n ennill gwobr yn y diwydiant, mae'r sylw hwnnw'n talu dwbl. Mae'n glanio o flaen pobl a allai brynu gennych chi, a phobl a allai ddymuno ymuno â chi.

Nid yw'r busnesau sy'n cael y gwerth mwyaf o hyn yn gadael iddo ddigwydd yn oddefol. Maen nhw'n rhannu sylw a llwyddiannau'n weithredol gyda lens recriwtio: yn ail-bostio hanesion yn y wasg gyda nodyn am y tîm y tu ôl iddyn nhw, yn defnyddio rhestrau byrion o wobrau fel cynnwys sy'n dangos i ymgeiswyr beth mae'r busnes yn ei werthfawrogi a chysylltu ag astudiaethau achos o hysbysebion swyddi fel y gall ymgeiswyr weld prawf go iawn o effaith cyn iddyn nhw hyd yn oed siarad â chi.

Gwneud i'ch cyfathrebu weithio'n galetach er mwyn denu gweithwyr

Ychydig o ffyrdd ymarferol o gysylltu eich gwaith adeiladu proffil â recriwtio:

  • Dangoswch y bobl, nid dim ond y canlyniadau. Mae astudiaeth achos am lwyddiant gyda chleient yn gryfach gyda llinell am y tîm a'i cyflawnodd. Mae ymgeiswyr am eu gweld eu hunain yn eich busnes, nid dim ond eich allbwn.
  • Defnyddiwch welededd eich tîm arwain yn fwriadol. Os bydd un o'ch tîm yn siarad mewn digwyddiad neu'n cael ei ddyfynnu yn y wasg, mae hynny'n arwydd i ymgeiswyr am safon y bobl y bydden nhw’n gweithio ochr yn ochr â nhw.
  • Cadwch eich sianeli'n fyw rhwng cyhoeddiadau mawr. Does dim angen newyddion bob wythnos, ond mae tudalen LinkedIn sydd ond yn postio ar gyfer rownd ariannu neu wobr yn edrych yn segur weddill yr amser, yn union pan allai ymgeisydd fod yn ymchwilio.
  • Gofynnwch i weithwyr newydd beth welon nhw. Pan fydd rhywun yn ymuno, gofynnwch beth wnaeth iddyn nhw wneud cais a beth sylwon nhw am eich proffil cyhoeddus cyn gwneud. Dyma'r ffordd gyflymaf o ddarganfod a yw eich cyfathrebu yn adeiladu’ch brand yn gyflogwr.

Os ydych chi eisoes yn buddsoddi amser mewn cysylltiadau cyhoeddus ac adeiladu proffil, mae'r gost ymylol o anelu rhywfaint o hynny at recriwtio yn fach. Gall y buddion - cronfa ymgeiswyr dynnach, fwy brwd sydd eisoes am fod yn rhan o'ch stori - fod yn sylweddol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.