Newyddion

Mae porthladd yng Ngogledd Cymru ar fin ehangu'n sylweddol a fydd yn creu 300 o swyddi newydd

Port

Mae Porthladd Mostyn yn bwrw ymlaen â'i gynllun i adeiladu angorfa newydd i ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyrbinau gwynt arnofiol. Gwnaed hyn yn bosibl ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru roi Trwydded Gwaith Morol i adeiladu cei 350 metr newydd ac adennill 13 erw o dir y tu ôl iddo. 

Mae'r cei newydd wedi'i gynllunio i alluogi cychod craen ‘jack-up’ mwyaf y byd i angori a llwytho'r tyrbinau. 

Yn y cyfamser, mae'r porthladd hefyd wedi cyhoeddi ei fod wedi prynu'r hen safle cyfagos 45 erw, cyn safle Warwick International. 

Bydd gwaith paratoi yn dechrau yn yr hydref a bydd y cam adeiladu yn creu 130 o swyddi a bydd 300 o rai parhaol yn dilyn ar ôl i'r rownd nesaf o brosiectau ffermydd gwynt ddechrau yn 2027. 

Yn y cyfamser, mae'r porthladd wedi dechrau trafodaethau gyda nifer o ddatblygwyr ffermydd gwynt iddynt ddefnyddio Mostyn fel canolfan ar gyfer eu prosiectau alltraeth.

Gall y porthladd honni mai dyma fan geni diwydiant gwynt alltraeth y DU ddau ddegawd yn ôl. Adeiladwyd y ddwy fferm wynt fasnachol gyntaf yn nyfroedd y DU, North Hoyle oddi ar arfordir Gogledd Cymru a Robin Rigg yn y Solway Firth, o Borthladd Mostyn yn 2002.

Mae’r Offshore Wind Growth Partnership (OWGP) wedi lansio’r Gystadleuaeth Ariannu Grant Datblygu ddiweddaraf, gyda chronfa gwerth £2 filiwn ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar gyfleoedd cadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr uchel eu gwerth. Mae grantiau o £50,000 i £500,000 ar gael.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:
•    OWGP awards twelve companies a share of £3m and announces a further £2m in scale up funding - Offshore Wind Growth Partnership
•    Development Grants - Offshore Wind Growth Partnership
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.