Newyddion

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn am ddiweddaru deddfau trethi

Tax law

Rydym yn gofyn i bobl sut maen nhw’n meddwl y dylai Cymru reoli newidiadau i gyfraith trethi yn y dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ôl i Lywodraeth Cymru adolygu sut mae’n gwneud newidiadau i ddeddfau trethi Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r trethi hyn, sydd wedi’u datganoli i Gymru, yn cynhyrchu refeniw pwysig sy’n helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid cael deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer gwneud rhai newidiadau i reolau treth, ond mae’n bosibl gwneud newidiadau eraill drwy reoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r broses fwyaf addas ar gyfer gwneud newidiadau i sicrhau bod modd diweddaru deddfau trethi mewn ffordd effeithlon pan fydd angen, yn enwedig wrth ymateb i weithgareddau osgoi treth neu newidiadau i drethi Llywodraeth y DU tebyg.

Mae’r Papur Gwyrdd ar Wneud Newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru yn archwilio sawl opsiwn, gan gynnwys cyflwyno biliau cyllid blynyddol tebyg i’r rhai sy’n cael eu defnyddio gan Senedd y DU, neu ddatblygu dulliau deddfwriaethol newydd wedi’u teilwra’n benodol i Gymru.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 28 Tachwedd 2025: Gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru | LLYW.CYMRU 

Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch sut mae Cymru yn rheoli ei deddfau trethi a byddant yn cael eu cyhoeddi erbyn dechrau 2026.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.