Mae UNITE yn rhaglen a gyd-ariennir gan Horizon Europe sy'n dod â rhanbarthau ledled Ewrop ynghyd i adeiladu ecosystem arloesi iechyd digidol heb ffiniau.
Gall sefydliadau yng Nghymru gydweithio â phartneriaid Ewropeaidd i ddatblygu, profi a graddio atebion iechyd digidol arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau gofal iechyd go iawn.
Mae'r alwad ar agor rhwng 10 Medi 2026 a 10 Rhagfyr 2026, gyda phrosiectau llwyddiannus yn rhedeg o 1 Ebrill 2027 i 30 Medi 2028. Mae cyfanswm cyllideb o €6 miliwn ar gael ar gyfer yr alwad, gyda chyllid o hyd at €1miliwn fesul prosiect.
Bydd angen i brosiectau llwyddiannus ddatblygu atebion sy'n cefnogi:
- Arloesiadau technoleg ddwfn i sicrhau iechyd cyfartal i'r boblogaeth gyfan
- Arloesi digidol i fynd i'r afael ag argyfwng y gweithlu iechyd
Darganfyddwch fwy am yr Alwad, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a'r cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr, drwy wylio ein Gweminar UNITE.
Gallwch hefyd ymweld â gwefan UNITE i ddysgu mwy am y rhaglen a chysylltu â phartneriaid prosiect posibl drwy Lwyfan Paru UNITE.