Newyddion

Mae Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr yn rhagweld swyddi yn y dyfodol a swyddi cyflenwi ar gyfer y sector yng Nghymru

Design team - wind turbines

Mae tîm RWE sy’n datblygu Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr wedi ymchwilio ac wedi cynhyrchu rhagolwg manwl o’r potensial i greu swyddi yn y dyfodol yn y prosiect ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru sydd yn cael cydsyniad ar hyn o bryd. 

Gallai’r gwaith adeiladu ar ei ben ei hun greu neu helpu i ddiogelu tua 2,000 o swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi.

Yn amodol ar sicrhau Penderfyniad Buddsoddi Ariannol a llwybr i’r farchnad drwy arwerthiant Contractau Gwahaniaeth yn y dyfodol, byddai Awel y Môr yn cael ei hadeiladu 10.5km oddi ar arfordir gogledd Cymru, i’r gorllewin o Fferm Wynt Alltraeth bresennol, Gwynt y Môr. Ar ôl ei gosod, byddai’n gallu cynhyrchu pŵer sy’n cyfateb i fwy na hanner y cartrefi yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r rhagolwg yn rhagweld beth fyddai’r gofynion swyddi blynyddol posibl ar gyfer pob cam adeiladu unigol, ac mae’n cael ei ategu gan ddata gan fwy na dwsin o brosiectau ffermydd gwynt alltraeth llwyddiannus a gyflawnir gan RWE, sy’n datblygu Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr ar ran partneriaid y prosiect, sef Stadtwerke München a Siemens Financial Services.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Newsroom - Awel Y Mor


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.